Senedd Ewrop

Senedd Ewrop
Nawfed Senedd Ewrop
Logo Senedd Ewrop
Gwybodaeth gyffredinol
Sefydlwyd10 Medi 1952 (1952-09-10)
Math weithdrefn ddeddfwriaethol yr Undeb Ewropeaidd
Tymhoraudim
Arweinyddiaeth
LlywyddDavid Sassoli, S&D
ers 3 Gorffennaf 2019
Is-lywydd CyntafRoberta Metsola, EPP
ers 12 Tachwedd 2020
Is-lywyddion
Ysgrifennydd CyffredinolKlaus Welle
ers 15 Mawrth 2009
Arweinwyr y grwpiau
Cyfansoddiad
Aelodau               
Political seats configuration for the 9th legislature of the European Parliament (2019-2024)
Grwpiau gwleidyddol
Pwyllgorau
Hyd tymor5 Mlynedd
Tâl8,932.86 (gross per month)
Etholiadau
System bleidleisioDewiswyd gan aelod wladwriaeth, systemau gan gynnwys:
Etholiad diwethaf23–26 Mai 2019
Etholiad nesaf2024
Arwyddair
Unedig mewn amrywiaeth
Man cyfarfod
‘Hemicycle’ Senedd Ewrop yn Strasbwrg, Ffrainc
Louise Weiss: Strasbwrg, Ffrainc
Man cyfarfod
‘Hemicycle’ Senedd Ewrop ym Mrwsel, Belgium
Espace Léopold: Brwsel, Gwlad Belg
Gwefan
europarl.europa.eu

Un o ganghennau deddfwriaethol yr Undeb Ewropeaidd ac un o'i saith sefydliad yw Senedd Ewrop (neu Y Senedd Ewropeaidd). Gyda Chyngor yr Undeb Ewropeaidd, mae hi'n deddfu deddfwriaeth Ewropeaidd, yn gyffredin ar gynnig y Comisiwn Ewropeaidd. Mae'r Senedd yn cynnwys 705 o Aelodau Senedd Ewrop (ASEau). Mae hi'n cynrychioli'r ail etholwyr mwyaf yn y byd (ar ôl Senedd India) a'r etholwyr democrataidd traws-wladol mwyaf yn y byd (375 miliwn o bleidleiswyr cymwys yn 2009)[1][2]

Ers 1979, etholir y Senedd yn uniongyrchol bob pum mlynedd gan ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd trwy bleidlais gyffredinol. Mae'r nifer a bleidleisiodd yn etholiadau seneddol wedi lleihau bob tro ar ôl 1979 tan 2019, pan cynyddwyd y nifer gan 8 y cant, ac aeth yn uwch na 50% am y tro cyntaf ers 1994.[3] 18 oed yw'r oedran pleidleisio ym mhob Aelod-wladwriaeth ac eithrio ym Malta ac Awstria, lle mae'n 16 oed, a Gwlad Groeg, lle mae'n 17 oed.[4]

Er bod gan Senedd Ewrop bŵer deddfwriaethol, fel y mae y Cyngor, nid oes ganddi'r hawl menter – sydd yn hawl y Comisiwn Ewropeaidd – fel y rhan fwyaf o seneddau gwladol yr aelod-wladwriaethau.[5][6] “Sefydliad cyntaf” yr Undeb Ewropeaidd yw hi (soniwyd yn gyntaf yn ei gytundebau a bod gan flaenoriaeth seremonïol dros sefydliadau eraill yr UE),[7] a rhannu pwerau deddfwriaethol a chyllidebol cyfatal gyda’r Cyngor (ac eithrio ar ychydig o faterion lle gweithreda gweithdrefn deddfwriaethol arbennig). Hefyd, mae ganddi reolaeth cyfartal dros gyllid yr UE. Yn y pen draw, mae’r Comisiwn Ewropeaidd, sydd yn gwasanaethu fel cangen weithredol yr UE, yn atebol i’r Senedd. Yn enwedig, gall y Senedd benderfynu a ddylid cymeradwyo enwebai’r Cyngor Ewropeaidd ar gyfer Arlywydd y Comisiwn, ac mae hi ymhellach yn gyfrifol am gymeradwyo (neu wrthod) penodi’r Comisiwn yn ei gyfanrwydd. Gall hi wedyn gorfodi’r Comisiwn cyfredol i ymddiswyddo gan deddfu cynnig cerydd.[5]

Llywydd Senedd Ewrop yw David Sassoli (PD) etholwyd yn Ionawr 2019. Mae e’n llywyddu dros siambr aml-blaid, y pum grŵp mwyaf yw grŵp Plaid Pobl Ewrop (EPP), Cynghrair Flaengar y Sosialwyr a'r Democratiaid (S&D), Renew Europe, y Gwyrddion/Cynghrair Rhydd Ewrop (Gwyrddion–EFA) ac Hunaniaeth a Democratiaeth (ID). Etholiadau 2019 oedd yr etholiadau UE-gyfan diwethaf.

Mae pencadlys y Senedd yn Strasbwrg, Ffrainc,[8] a’i swyddfeydd gweinyddol yn Ninas Lwcsembwrg. Mae sesiynau llawn yn digwydd yn Strasbwrg yn ogystal â Brwsel, Gwlad Belg, wrth i gyfarfodydd pwyllgor y Senedd yn digwydd yn bennaf ym Mrwsel.[9]

  1. Wielaard, Constant Brand and Robert (2009-06-08). "Conservatives Gain in European Parliament Elections" (yn Saesneg). ISSN 0190-8286. Cyrchwyd 2021-05-08.
  2. "Misery for social democrats as voters take a turn to the right". the Guardian (yn Saesneg). 2009-06-08. Cyrchwyd 2021-05-08.
  3. "Results of the 2014 European elections - European Parliament". Results of the 2014 European elections - European Parliament (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-05-08.
  4. "The European Parliament: electoral procedures | Fact Sheets on the European Union | European Parliament". www.europarl.europa.eu (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-05-08.
  5. 5.0 5.1 "About Parliament". About Parliament (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-05-08.
  6. "Pöttering defends parliament's role at EU summits: theparliament.com". web.archive.org. 2011-05-24. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-05-24. Cyrchwyd 2021-05-08.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  7. "Parliament's Protocol Service - mission impossible?". www.europarl.europa.eu. Cyrchwyd 2021-05-08.
  8. Erthygl 28 Cytundeb ar Undeb Ewropeaidd
  9. Anonymous (2016-06-16). "European Parliament". European Union (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-05-08.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search